On Friday 1st May, Urdd Gobaith Cymru will turn the world red, white and green in a fundraising day for Llamau!

Throughout the week of 27th April – 1st May, members and famous friends of Urdd will urge people to take part by nominating people to wear red, white and green on Friday 1st May, ‘Red, White and Green Day’.

On the big day, family, children and even pets will be encouraged to wear red, white and green. People can share pictures on social media using the hashtag #urddllamau and nominate 5 people to do the same.

You can contribute by texting URDD and the sum you would like to donate (e.g. URDD5 to donate £5) to 70085. You can also donate via JustGiving here.

In the wake of the coronavirus pandemic, demand for our services continues to rise. The people Llamau support need us now more than ever. We have seen a surge in the number of people needing support with domestic abuse, and an increase in the number of young people facing homelessness, as young people who have been sofa surfing are needing to leave the homes of family and friends due to strict measures around social distancing and isolation.

Now, more than ever, we need your help to ensure we can keep our essential services running and keep the young people and women who need our support safe.

So, on Friday 1st May, wear red, white and green and join in the fun, raising funds to create a world without homelessness.

Ddydd Gwener yma, 1af Mai, mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn troi’r byd yn goch, gwyn a gwyrdd, mewn diwrnod o godi arian i Llamau, prif elusen ddigartrefedd Cymru.

Felly, drwy gydol wythnos yma (Llun, Ebrill 27ain – Gwener, Mai 1af) bydd aelodau a ffrindiau enwog yr Urdd yn annog pawb i gymryd rhan, trwy enwebu pum person i wisgo coch gwyn a gwyrdd ddydd Gwener, Mai 1af, sef Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd.

Ar y diwrnod mawr, bydd teuluoedd, plant a hyd yn oed anifeiliaid anwes yn cael eu hannog i lliwiau'r Urdd. Gall pobl rannu eu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio'r hashnod #UrddLlamau ac enwebu 5 person i wneud yr un peth. Gallwch gyfrannu drwy decstio URDD a’r swm yr hoffech ei gyfrannu e.e. URDD5 i gyfrannu £5, at 70085. Mae tudalen justgiving hefyd https://www.justgiving.com/fundraising/cochgwynagwyrdd.

Mae gwaith Llamau, prif elusen ddigartrefedd Cymru ar gyfer pobl ifanc a menywod sy’n agored i niwed, yn bwysicach nag erioed. Mae'r elusen yn adrodd cynnydd yn nifer yr achosion o drais domestig, yn ogystal â phobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd, gyda sofa surfers yn gadael cartrefi ffrindiau a theulu oherwydd y mesurau llymach ar hyn o bryd. Mae angen help ar Llamau i gefnogi'r bobl ifanc, y menywod a'r plant sydd yn eu gofal yn ystod y cyfnod hwn – gyda nifer heb fynediad i ardd na llefydd i chwarae ac ymlacio.

Felly ewch ati ac ymunwch yn yr hwyl, a chodi arian yr un pryd!